Gall Corwynt Ophelia achosi gwyntoedd cryfion hyd at 80mya Llun: PA
Mae disgwyl gwyntoedd cryfion hyd at 80 milltir yr awr ddydd Llun (Hydref 16) wrth i Storm Ophelia gyrraedd glannau ynysoedd Prydain.

Mae’r rhybudd tywydd melyn yng Nghymru bellach wedi’i uwchraddio i rybudd oren yn y gogledd a Sir Benfro ac mae nifer o ysgolion eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau.

Dyma’r ysgolion sydd wedi cau, neu fydd yn cau, yn Sir Benfro hyd yn hyn:

Ysgol y Preseli, Ysgol Penfro, Ysgol Gyfun Aberdaugleddau, Ysgol Portfield, Ysgol Gymuned Neyland a Phenalun, Ysgol Greenhill, Ysgol Gymunedol Maenclochog, Ysgol Gymunedol Brynconin, Ysgol y Stagbwll, Ysgol Gymunedol Hook.

Yn y cyfamser mae Cyngor Ynys Môn wedi cyhoeddi y bydd Ysgol Caergeiliog, Ysgol Cybi, ac Ysgol Kingsland yn cau am 1pm fan bellaf heddiw.

Ac yng Ngheredigion mae’r cyngor wedi cyhoeddi y bydd Ysgol T Llew Jones, Brynhoffnant ac Ysgol Aberporth yn cau am 2yp. Bydd Ysgol Penparc yn cau am 1pm.

Ac mae Prifysgol Bangor wedi canslo darlithoedd a chyfarfodydd o 2yp ymlaen prynhawn ma oherwydd y storm.

Mae cyfyngiadau mewn lle ar Bont Britannia ar yr A55 ar hyn o bryd ac mae yna fwriad i’w chau am 3pm prynhawn ma.

Hefyd, mae cyfyngiadau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro a rhybudd am lifogydd yn yr ardal. Dywed Cyngor Sir Benfro bod tua 200 o gartrefi heb gyflenwad trydan yno.

Teithiau fferi

Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae’n bosib bydd trafnidiaeth ar “ffyrdd, rheilffyrdd ac yn yr awyr” yn cael eu heffeithio, ac mae teithiau fferi Irish Ferries a Stena Line rhwng Cymru ac Iwerddon eisoes wedi’u canslo.

Fe fydd rhybudd tywydd melyn mewn grym ar draws rhannau helaeth o Brydain o ganol dydd hyd at ganol nos, tra bod rhybudd oren yng Ngogledd Iwerddon.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon mae rhybudd tywydd coch mewn grym mewn sawl sir, ac mae sawl adeilad cyhoeddus gan gynnwys ysgolion a llysoedd wedi’u cau.

Mae arbenigwyr hefyd yn nodi bod toriadau pŵer yn bosib, ac yn rhybuddio y gall wyntoedd cryfion ddifrodi adeiladau gan “beryglu bywydau.”

Mae Gwylwyr y Glannau yn rhybuddio pobl i beidio mynd i wylio’r tonnau ar hyd yr arfordir.

Daw’r tywydd garw 30 mlynedd yn union i’r dydd pan darodd Storm Fawr 1987 pan gafodd 18 o bobol eu lladd.