Fe fydd dyn 42 oed yn mynd gerbron llys ddydd Llun, wedi’i gyhuddo o drywanu dyn yn ei frest, gan achosi anafiadau difrifol.

Digwyddodd yr ymosodiad ar y dyn yn ei ugeiniau ar drên ym Mhontlotyn ddydd Gwener.

Mae’r dyn, fydd yn ymddangos gerbron ynadon yng Nghasnewydd, wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Cafodd dyn 39 oed ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ond fe gafodd ei ryddhau heb fod rhagor o gamau yn ei erbyn.