Mae gwerth £12,000 o’r cyffur cocên wedi’i ganfod yn Llanelli – ac mae dyn 60 oed wedi’i arestio.

Cafwyd hyd i 240g o’r cyffur mewn eiddo yng nghanol y dref ddydd Mawrth yr wythnos hon, ynghyd â 9g o ganabis ac ychydig o dabledi Faliwm.

Mae dyn 60 oed wedi’i arestio, a chafodd dyn a menyw oedd yn y tŷ pan gyrhaeddodd yr heddlu, eu holi.

Mae disgwyl i’r ddynes 37 oed ymddangos yn y llys i gael ei chyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth B a C yn ei meddiant a’r dyn 40 oed i gael ei gyhuddo o fod â chyffuriau dosbarth B yn ei feddiant.

 

Mae’r dyn 60 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau yn ei feddiant gyda’r bwriad o werthu.

 

Roedd y cyrch yn rhan o ymgyrch #FfocwsLlwyr yr heddlu i daclo troseddau sy’n cael effaith ar bobol fregus mewn cymunedau.