Keiran David Wathan (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae dyn meddw wnaeth dorri mewn i dŷ cwpl a lladd pensiynwraig wedi cael ei garcharu am 13 mlynedd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe, bod Keiran Wathan yn feddw ac o dan ddylanwad cyffuriau pan sleifiodd i mewn i gartref Wayne a Sheila Morgan ar ôl darganfod bod drws y tŷ heb ei gloi.

Digwyddodd yr ymosodiad toc wedi hanner nos ar Fawrth 12 eleni yn Nhreforys, Abertawe pan wnaeth Sheila Morgan, 71,  ddarganfod yr ymosodwr yn cysgu yn ei gwely.

Roedd Wayne Morgan wedi mynd i’r ystafell wely gyda morthwyl bach yn ei law, ac wedi llusgo Keiran Wathan o’r gwely ac i lawr y grisiau.  Fe geisiodd ddal Keiran Wathan yn erbyn y soffa wrth aros am yr heddlu.

Ond roedd gan Keiran Wathan gyllell ac fe lwyddodd i gipio’r morthwyl gan  Wayne Morgan a’i daro sawl gwaith gan achosi anafiadau difrifol, cyn trywanu Sheila Morgan yn ei braich. Er nad oedd ei hanafiadau yn ddifrifol iawn bu farw o gymhlethdodau o’i hanaf.

Cyhuddo a dyfarnu

Roedd Keiran Wathan, 24,  o Odre’r Graig, Castell Nedd Port Talbot, wedi ei gyhuddo o lofruddio yn wreiddiol ond plediodd yn euog i ddynladdiad ar ddechrau’r achos.

Plediodd yn euog hefyd i gyhuddiad o anafu gyda’r bwriad o osgoi arestiad, ac o feddu ar gyllell.

Cafodd Keiran Wathan ei ddedfrydu i 13 mlynedd o garchar gyda chyfnod ychwanegol o bum mlynedd o hyd ar drwydded.