Llun: PA
Mae heddlu gwledydd Prydain wedi derbyn bron i 30,000 o adroddiadau o gam-drin plant yn rhywiol gan bobol ifanc eraill yn ystod y pedair blynedd diwethaf.

Roedd mwy na 2,600 ohonyn nhw’n honiadau o ymosodiadau ar safleoedd yr ysgol gan gynnwys rhai ysgolion cynradd – gyda 225 yn achosion honedig o drais gan blant o dan ddeunaw oed.

Ers 2013 mae cynnydd o 71% wedi bod yn y nifer o adroddiadau o gamdriniaeth o’r fath, gyda 4,603 wedi’u cofnodi pedair blynedd yn ôl o gymharu â 7,866 y llynedd.

Ac mae’r cais rhyddid gwybodaeth gan raglen Panorama’r BBC yn dangos na fu dim gweithgarwch pellach yn achos 74% o’r achosion gafodd eu cofnodi.

Yn rhan o’r rhaglen mae rhieni a phlant sy’n ddioddefwyr yn siarad am eu profiadau gan ddweud nad oes cymorth digonol ar gael yn yr ysgolion i fynd i’r afael â hyn.