Dydy’r heddlu ddim yn trin y gwrthdrawiad ger Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain ddoe fel ymosodiad brawychol.

Cafodd tacsi Toyota Prius ei yrru i ganol torf o bobol ar balmant y tu allan i’r amgueddfa yn Ne Kensington, gan anafu 11 o bobol.

Roedd deunydd fideo ar wefannau cymdeithasol ar ôl y digwyddiad yn dangos dyn yn cael ei ddal gan aelodau’r cyhoedd ar lawr.

Cafodd dyn yn ei 40au ei arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae rhan fwya’r bobol a gafodd eu hanafu wedi derbyn triniaeth am anafiadau i’r pen neu’r goes.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.