Mae nifer o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn digwyddiad y tu allan i Amgueddfa Hanes Naturiol Llundain.

Y gred yw fod car wedi cael ei yrru i ganol torf o bobol y tu allan i’r adeilad.

Dywedodd Heddlu Llundain fod digwyddiad yn ardal De Kensington toc ar ôl 2.20pm heddiw.

Mae’r heddlu a’r Gwasanaeth Ambiwlans yn rhoi cymorth, ac mae dyn wedi cael ei arestio.

Mae’r amgueddfa a’r ardal leol o ddiddordeb mawr i dwristiaid, gan gynnwys nifer fawr o blant.

Mae lluniau wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol yn dangos yr heddlu’n arestio dyn ar bwys dau gar sydd wedi taro’i gilydd.

Mae’r amgueddfa wedi crybwyll y digwyddiad ar eu tudalen Twitter, gan ddweud eu bod nhw’n rhoi gwybodaeth i’r heddlu.