Mae dyn digartref wedi marw mewn hostel yng nghanol Caerdydd, gyda’r gred ei fod wedi cymryd y cyffur ‘Spice’, sy’n fath o ganabis synthetig.

Bu farw’r dyn, oedd yn 52 oed ac wedi bod yn byw ar y strydoedd ers blynyddoedd, yn hostel Tŷ Tresilian, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Caerdydd.

Does dim cadarnhad eto ar yr union reswm dros ei farwolaeth ond mae’r Cyngor wedi dweud bod hi’n debygol mai’r cyffur oedd yn gyfrifol.

Mae Heddlu De Cymru bellach wedi arestio dau ddyn – 49 a 22 oed – ar amheuaeth o droseddau yn ymwneud â chyffuriau.

Dywedodd yr heddlu fod ymchwiliad yn parhau i ganfod yr union amgylchiadau ac achos marwolaeth y dyn.

Mae ymdrechion hefyd i geisio cysylltu â’i berthnasau agosaf.

‘Problemau iechyd hirdymor’

Dywedodd y Cyngor fod gan y dyn broblemau iechyd hirdymor ac wedi syrthio gan anafu ei hun sawl tro.

Ychwanegodd Lynda Thorne, aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai fod tîm estyn braich y Cyngor, sy’n gweithio gyda phobol ddigartref yn “hollol ymroddedig”, sydd “ddim yn gadael neb ar ôl.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb pellach gan Gyngor Caerdydd.