Katrina Evemy (Llun: trwy law Heddlu Dyfed Powys)
Clywodd llys bod mam ifanc wedi marw chwe diwrnod ar ôl cael ei thrywanu i farwolaeth gan ei chariad “cenfigennus a meddiannol”.

Clywodd Llys y Goron Abertawe, bod Katrina Evemy, 19, wedi marw mewn ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn ei chartref yn Heol Craig, Llanelli ar Ebrill 13.

Mae cariad y ddynes, Dylan Harries, wedi ei gyhuddo o’i llofruddio tra oedd ei merch 22 mis oed yn bresennol.

Clywodd y llys bod y dyn 22 oed – sydd yn gwadu’r cyhuddiad – wedi cyrraedd tŷ Katrina Evemy â chyllell am 5yh.

Cafodd y ddynes ei brathu a’i thrywanu sawl gwaith gan Dylan Harries, a chafodd olion o DNA’r ymosodwr ei adael ar ei dillad, yn ôl yr erlynydd Patrick Harrington QC.

Clywodd y llys bod Dylan Harries, o Felinfoel, wedi aros yn ei thŷ am 40-45 munud cyn cysylltu â’r gwasanaethau brys a chymdogion, gan honni bod yr ymosodiad wedi digwydd cyn iddo gyrraedd.

Fe wnaeth Patrick Harrington ddisgrifio Dylan Harries fel person “cenfigennus a meddiannol” gan ychwanegu bod y diffynnydd wedi darganfod, ar ddiwrnod yr ymosodiad,  bod ei gariad wedi cusanu dyn arall mewn clwb nos.

Mae’r achos yn parhau.