Llys y Goron Abertawe
Mae dyn 38 oed wedi cael dedfryd estynedig o 21 mlynedd dan glo am ymosodiadau rhywiol yn erbyn merch tair oed.

Cafodd Trevor Vinson sy’n wreiddiol o’r Tymbl, ond sydd â chysylltiadau yn Sir Benfro, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe heddiw (Hydref 2).

Fe blediodd yn euog i’r cyhuddiadau o gam-drin rhywiol a bydd yn rhaid iddo dreulio o leiaf deng mlynedd dan glo.

“Fel teulu rydym wedi cael ei hysgwyd i’n seiliau, mae ein byd wedi malu o’n cwmpas ni,” meddai rhieni’r ferch dair oed mewn datganiad drwy law Heddlu Dyfed Powys.

Ychwanegodd y Ditectif Elaine Bendle ar ran Heddlu Dyfed Powys fod y troseddau’n “ffiaidd” a’i fod yn achos “anarferol” wrth iddyn nhw gasglu tystiolaeth gan blentyn mor ifanc.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod yr achos yn ymwneud â “chamdriniaeth rywiol eithafol o ddifrifol yn erbyn dioddefwyr ifanc iawn.”