(llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n chwilio am yrrwr car BMW ar ôl i gerddwr gael ei ladd yn Nhreffynnon neithiwr.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad ar Allt y Ffynnon am 6.45 neithiwr, lle’r roedd y dyn ifanc eisoes wedi marw.
Roedd gyrrwr y BMW wedi dianc oddiyno ar ôl y gwrthdrawiad.
“Hoffwn wneud apêl bersonol uniongyrchol ar i’r gyrrwr ddod ymlaen,” meddai’r Uwcharolygydd Alex Goss gan ddweud bod yr heddlu’n troi pob carreg yn eu hymdrechion wrth chwilio iddo.
“Dw i hefyd yn pwyso ar unrhyw un a oedd ar Allt y Ffynnon o gwmpas amser y digwyddiad gysylltu â ni i’n helpu i wybod beth a ddigwyddodd.”
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod V149031, neu gysylltu am sgwrs fyw dros y we ar