Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i gerddwr gael ei ladd ar y briffordd o Aberteifi i Abergwaun yn oriau mân y bore.

Roedd y dyn, a oedd yn ei 30au, wedi cael ei daro i lawr gan gar gerllaw’r gylchfan rhwng yr A487 i Abergwaun a’r A478 i Ddinbych-y-pysgod.

Cafodd yr heddlu wybod am y digwyddiad tua 4am a bu’r ffordd ar gau tan ychydig wedi 11 y bore yma.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu unrhyw un a oedd yn teithio ar y ffordd yn oriau mân y bore gysylltu â nhw ar frys ar 101.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un a welodd ddyn yn cerdded ar hyd y darn hwn o’r ffordd.