Mae dyn 46 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 26 oed yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i gorff Katherine Smith, sy’n fam i ferch fach, mewn eiddo yn ardal Trelái ddydd Iau.

Cafodd y dyn o ardal Glanyrafon y brifddinas ei arestio yn Weston-Super-Mare yn ne-orllewin Lloegr.

Teyrngedau

Mewn datganiad, dywedodd teulu Katherine Smith ei bod hi’n “ferch, wyres, chwaer a ffrind cariadus”.

“Bydd colled drist iawn ar ôl Katherine,” ychwanegodd y teulu. “Rydym wedi cael sioc ac yn methu credu’r hyn sydd wedi digwydd iddi.

“Bydd ei merch yn gweld ei heisiau’n fawr.”