Roedd y dyn wedi ei arestio yn Weston Super Mare (Chris Downer CCA2.0)
Mae dyn wedi yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio dynes ifanc yng Nghaerdydd.

Yn hwyr neithiwr, fe gyhoeddodd Heddlu De Cymru eu bod wedi arestio dyn yn Weston Super Mare yng Ngwlad yr Haf.

Roedd hynny’n dilyn dod o hyd i gorff gwraig 26 oed mewn tŷ yn Heol Trelái yn Nhrelái yn y brifddinas.

Roedd hynny ychydig cyn hanner awr wedi deg bore ddoe ac fe ddigwyddodd yr arestio fin nos.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.