Jan Jedrzejewski Llun: Heddlu Gwent/PA
Mae dyn wedi cael ei garcharu am oes am lofruddio dyn mewn ymosodiad “ciaidd” yng Nghasnewydd ym mis Ionawr eleni.

Roedd Richard Wallis, 43, wedi gwadu llofruddio Jan Jedrzejewski ond fe’i cafwyd yn euog gan reithgor yn dilyn achos yn Llys y Goron Casnewydd yn gynharach y mis hwn.

Cafwyd hyd i Jan Jedrzejewski, 41 oed, yn anymwybodol ar Stryd Keene yng Nghasnewydd tua 11yh ar 12 Ionawr eleni.

Bu farw o’i anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent y diwrnod canlynol.

Roedd wedi symud i Gasnewydd o Wlad Pwyl ym mis Awst 2015 ac yn gweithio i gwmni Island Steel.

Clywodd y llys bod Richard Wallis wedi cicio Jan Jedrzejewski wrth iddo orwedd ar y llawr. Roedd Richard Wallis yn honni ei fod wedi cael ei annog i ymosod ar Jan Jedrzejewski.

Dywedodd Paul Lewis QC ar ran yr amddiffyniad fod eraill wedi taro Jan Jedrzejewski i’r llawr cyn i Richard Wallis gyrraedd y safle.

Ond nid oedd y barnwr, Syr John Griffith Williams, yn derbyn y ddadl yma, gan ddweud fod Richard Wallis wedi cario bar  er nad oedd wedi ei ddefnyddio yn yr ymosodiad.

Cafodd Richard Wallis ei garcharu am oes a bydd yn gorfod treulio lleiafswm o 16 mlynedd dan glo.  Fe blediodd yn euog i ddau gyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ond ni fydd yn cael ei gosbi am y troseddau hyn.

Roedd Callum Banton, 18, Shaquille Crosdale, 18, a llanc na ellir ei enwi, i gyd o Gasnewydd, wedi sefyll eu prawf ar gyhuddiad o lofruddiaeth ac maen nhw’n wynebu ail achos llys ar ôl i achos blaenorol fethu.

Cafwyd mam Richard Wallis, Catherine Coslett, 64, o Gwmtyleri yn euog o ddau gyhuddiad o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu yn ddiweddarach.