Mae corff dynes wedi cael ei ddarganfod mewn tŷ mewn ardal ar gyrion Caerdydd.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i eiddo yn Heol Trelái, Trelái, yng ngorllewin y brif ddinas am 10:25 y bore yma, lle cafwyd hyd i gorff y ddynes.

Mae’r heddlu ar y safle ar hyn o bryd, lle mae ymchwiliadau yn parhau ac mae adroddiadau bod timau fforensig bellach wedi cyrraedd.

Doedd Heddlu De Cymru ddim yn gallu cadarnhau dim byd arall ond dywed y bydd rhagor o wybodaeth maes o law.