Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad gyda phlismyn arfog ar ffordd yr A369 ger Bryste bore ma, meddai Heddlu Gwlad yr Haf.

Cafodd y ffordd ei chau yn Portbury, sy’n  agos i’r M5 i orllewin Bryste, ac mae llygad dyst yn honni bod plismyn wedi tanio gwn at gar oedd wedi  cael ei stopio.

“Wrth i mi adael Portishead er mwyn ymuno â’r draffordd cefais fy stopio,” meddai David Elliston wrth BBC Radio Bristol. “Roedd heddlu o fy mlaen ar y ffordd.”

“Gwelais yr heddlu yn camu i ffwrdd o’r car, yna mi wnaethon nhw ei amgylchynu. Gwnaethon nhw danio drylliau pump, chwe, efallai 10 gwaith.

“Yna cafodd dyn ei lusgo o’r car fel eu bod yn medru ei adfywio.”

Dywed Heddlu Gwlad yr Haf eu bod wedi cyfeirio’r achos at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).