Mae dyn a dynes wedi’u harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi i gorff wedi’i losgi gael ei ganfod mewn gardd yn Llundain.

Mae’r heddlu wedi methu â dweud p’un ai gweddillion dyn ynteu dynes ddaethpwyd o hyd iddyn nhw, gan eu bod nhw wedi’u llosgi mor ddrwg.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r corff yng ngardd gefn adeilad yn Southfields yn ne-orllewin Llundain, nos Fercher.

Fe gafodd Heddlu’r Met eu galw toc cyn 6.30yh, wedi iddyn nhw dderbyn adroddiadau o dân a honiadau fod rhywun wedi marw.

Fe gafodd dyn 40 oed a dynes 34 oed eu harestio yno, ac maen nhw’n dal i gael eu holi heddiw.