Tŵr Grenfell Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Fe allai ymchwiliad i dân tŵr Grenfell ystyried cyhuddiadau o ddynladdiad yn erbyn unigolion ynghyd â chorfforaethau.

Yn ôl Matt Bonner, Ditectif Brif Arolygwyr gyda Heddlu’r Met, mae disgwyl y bydd yr ymchwiliad yn canfod troseddau’n ymwneud â thwyll, torri rheolau iechyd a diogelwch, rheoliadau tân a chyhuddiadau o ddynladdiad “ar lefel corfforaethol neu unigol,” meddai.

Yn ogystal, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal i wyth achos o dwyll yn ymwneud â phobol oedd yn hawlio arian yn dilyn y trychineb, ynghyd â phedwar achos o ddwyn o loriau gwaelod yr adeilad.

Mae adroddiadau hefyd y gallai’r ffigwr amcangyfrif o ran nifer y bobol a fu farw, sef 80, ostwng wrth i fwy o wybodaeth ddod i’r fei.

Hyd yn hyn mae 60 o bobol wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol ers y tân ar Fehefin 14 eleni.