Heddlu arfog Llun: PA
Mae dau ddyn, a gafodd eu maethu gan yr un cwpl o Surrey, yn cael eu holi gan dditectifs sy’n ymchwilio i ymosodiad Parsons Green, yn ôl adroddiadau.

Cafodd llanc 18 oed, sy’n cael ei amau o osod y ddyfais ar drên tanddaearol, a dyn 21 oed eu harestio o dan y Ddeddf Frawychiaeth yn dilyn yr ymosodiad ddydd Gwener.

Credir bod y ddau wedi cael gofal gan Penelope a Ronald Jones, sy’n 71 ac 88 oed, sydd wedi bod yn rhieni maeth ers bron i 40 mlynedd.

Yn ôl adroddiadau, roedd y dyn 21 oed yn dod o Syria, ac wedi gadael gofal ei rieni maeth. Cafodd ei arestio yn Hounslow nos Sadwrn tra bod yr heddlu’n chwilio ei gartref yn Stanwell, Surrey ddydd Sul.

Dywedodd gwleidydd lleol ei fod yn deall bod y llanc 18 oed yn dod o Irac ac wedi bod yn byw gyda’r cwpl ar ôl symud i’r Deyrnas Unedig pan oedd yn 15 oed ar ôl i’w rieni farw.

Cafodd cyrch ei gynnal ar gartref y cwpl fore dydd Sadwrn ac mae ymchwilwyr gwrth-frawychiaeth yn dal i archwilio’r tŷ.

Cafodd 30 o bobl eu hanafu pan ffrwydrodd bom ar drên tanddaearol yng ngorsaf Parsons Green ddydd Gwener.

Wrth i’r ymchwiliad barhau, mae lefel y bygythiad o ymosodiadau brawychol wedi cael ei israddio o’i lefel uchaf posib.