Mae pedwar o bobl wedi marw ac mae dynes a dau o blant yn ddifrifol wael mewn ysbyty ar ôl gwrthdrawiad gyda lori ar draffordd yr M5.

Roedd y lori wedi gwrthdaro yn erbyn traffig oedd yn teithio i’r de tuag at Fryste ar ôl gwyro ar draws y draffordd rhwng cyffordd 16 ac 14 yn ne Swydd Gaerloyw ddydd Sadwrn.

Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cadarnhau bod pedwar o bobl wedi marw a bod tri arall mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Cafodd gyrrwr y lori hefyd ei gludo i’r ysbyty fel rhagofal.

Mae’r tri lon i gyfeiriad y de ar y draffordd bellach wedi ail-agor tra bod ymdrechion yn parhau i agor y ffordd tua’r gogledd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Ellis bod y gwasanaethau brys wedi “gweithio’n ddiflino ar y safle o dan amodau erchyll” a’i fod hefyd yn diolch i aelodau o’r cyhoedd a oedd wedi mynd i helpu’r rhai oedd yn y gwrthdrawiad.