Mae ail ddyn wedi cael ei arestio gan dditectifs sy’n ymchwilio i’r ymosodiad brawychol ar drên yng ngorsaf Parsons Green yn Llundain ddydd Gwener.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio yn Hounslow am 11.50yh nos Sadwrn, meddai pennaeth Gwrth-Frawychiaeth Heddlu’r Metropolitan.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn ne Llundain.

Daw’r datblygiadau diweddaraf ar ôl i ddyn 18 oed gael ei arestio ym mhorthladd Dover fore dydd Sadwrn. Mae’n parhau yn y ddalfa yng ngorsaf yr heddlu yn Llundain.

Ddoe, bu’r heddlu hefyd yn chwilio tŷ yn Sunbury-on-Thames, Surrey sy’n berchen i gwpl sy’n maethu plant, Penelope a Ronald Jones, sy’n 71 a 88 oed.

Mae’n debyg bod y cwpl yn aros gyda ffrindiau am o leiaf y pum diwrnod nesaf yn dilyn y cyrch ar eu cartref pan gafodd trigolion mewn tai cyfagos orchymyn gan swyddogion gwrth-frawychiaeth i adael eu cartrefi.

Yn ôl ffrind i’r cwpl, Alison Griffiths, roedd dau ddyn 18 a 22 oed wedi bod aros gyda nhw yn ddiweddar. Maen nhw wedi bod yn rhieni maeth ers bron i 40 mlynedd ac wedi gofalu am hyd at 300 o blant, gan gynnwys ffoaduriaid.

Dywedodd Alison Griffiths bod y cwpl yn uchel iawn eu parch yn y gymuned.

Cafodd 30 o bobl eu hanafu pan ffrwydrodd dyfais mewn bag plastig yn ystod cyfnod prysur yng ngorsaf Parsons Green ddydd Gwener. Mae pob un o’r rhai gafodd eu hanafu, ar wahan i un person, bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae’r bygythiad o ymosodiadau brawychol yn parhau ar ei lefel uchaf sy’n golygu y gallai ymosodiad arall ddigwydd yn fuan.