Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain wedi'r tân Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Mae dynes wedi’i chyhuddo o dwyll drwy wneud ceisiadau am gymorth sy’n cael ei roi i’r rhai oedd wedi goroesi tân Tŵr Grenfell yn Llundain.

Mae Joyce Msokeri, 46, o Erddi Ambleside, Sutton yn ne Llundain wedi’i chyhuddo o chwe chyhuddiad o dwyll, meddai’r Heddlu Metropolitan.

Fe fydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw.

Cafodd Joyce Msokeri ei harestio ar 25 Gorffennaf.

Bu farw o leiaf 80 o bobl yn y tân yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin.

Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am achosion o dwyll i gysylltu â’r tîm sy’n ymchwilio i’r tân drwy ffonio 0800 032 4539.