Barbados (Llun: Wicipedia)
Mae gwr busnes o Loegr wedi mynd ar goll yn Barbados.

Does neb wedi gweld y gwerthwr ceir, Steven Weare, 49, o Kirkham, Swydd Gaerhirfryn, ers dydd Mercher diwethaf – ac mae’r heddlu bellach yn chwilio amdano.

Mae’r Swyddfa Dramor hefyd wedi cadarnhau bod eu swyddogion nhw yn cydweithio gyda’r heddlu a gyda theulu Steven Weare.

Roedd y gwr busnes wedi bwriadu aros yng ngwesty Newcastle Plantation House yn ardal St John yn nwyrain yr ynys, ond mae wedi bod ar goll ers Awst 23.

Mae’n ymwelydd cyson â Barbados, ers iddo ef a’i deulu brynu lle yno rai blynyddoedd yn ol.