Mae’r gyrrwr sy’n wynebu 20 o gyhuddiadau yn ymwneud â damwain ar draffordd yr M1, wedi ymddangos gerbron llys.

Mae Ryszard Masierak, 31, wedi’i gyhuddo o fod â gormod o alcohol yn ei waed pan fu ei lori mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M1 yn Swydd Buckingham yn oriau mân fore Sadwrn diwethaf (Awst 26).

Fe gafodd chwech o ddynion a dwy ddynes oedd yn teithio mewn fan Ford Transit eu lladd, wedi i’w cerbyd fod mewn gwrthdrawiad â lori Scania ac ail lori ger Newport Pagnell toc wedi 3 o’r gloch y bore.

Mae tri theithiwr arall – yn cynnwys merch bum mlwydd oed – yn ymladd am eu bywydau, ac mae pedwerydd wedi diodde’ mân anafiadau.

Fe ymddangosodd Ryszard Masierak gerbron Llys Ynadon High Wycombe Magistrates’ Court heddiw, ac fe glywodd y llys fod 55mg o alcohol fesul 100mg o waed. Y gyfradd gyfreithlon ydi 35mg.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Aylesbury ar Fedi 26.