Mae’r rhai a gafodd eu lladd yn y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain yn cael eu cofio ar ddechrau carnifal Notting Hill heddiw.
Mae miloedd o blismyn ar y strydoedd ar gyfer y digwyddiad blynyddol sy’n para deuddydd.
Mae’r heddlu’n defnyddio blociau concrid a bariau dur ac yn archwilio pobol am arfau er mwyn ceisio atal unrhyw ymosodiad brawychol posib.
Yn ôl yr heddlu, does dim tystiolaeth gadarn y gallai ymosodiad ddigwydd, ond maen nhw wedi adolygu’r trefniadau diogelwch ar gyfer y digwyddiad ar ôl yr ymosodiadau diweddar yn ninas Barcelona, pan gafodd 15 o bobol eu taro gan fan a’u lladd.
Bydd technoleg adnabod wynebau’n un arall o fesurau’r heddlu.
Tŵr Grenfell
Bydd ffensys o amgylch y teyrngedau ger y tŵr, a chylch dynol o blismyn yn eu gwarchod yn ystod yr orymdaith.
Mae’r digwyddiad yn cael ei agor gyda gweddi aml-ffydd, a cholomennod yn cael eu rhyddhau i’r awyr.
Bydd munud o dawelwch am 3 o’r gloch, ac mae’r bobol sy’n cymryd rhan yn yr orymdaith wedi cael eu hannog i wisgo rhywbeth gwyrdd er cof am y rhai fu farw.
Mae’r trefnwyr wedi gofyn i bobol beidio â thynnu lluniau ger safle’r tân.