Mae dyn 19 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu ger Stadiwm Olympaidd Llundain neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Newham yn nwyrain y ddinas am 10.40pm, a bu farw’r dyn yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae’r heddlu wedi dechrau ymchwiliad i’w lofruddiaeth, ac mae disgwyl i archwiliad post-mortem gael ei gynnal.