Mae dyn 29 oed sydd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio pedwar o blant drwy yrru ei gar i mewn i wal tafarn wedi cael ei gadw yn y ddalfa.
Mae’r pedwar – dau fachgen a dwy ferch rhwng naw mis ac wyth oed – mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn Barnsley yn Ne Swydd Efrog.
Ar ôl cael ei arestio fore Mercher, aeth Owen Peter Scott gerbron ynadon yn Sheffield heddiw i wynebu’r cyhuddiadau, a chyhuddiad ychwanegol o yrru’n beryglus.