Mae dau ddyn o Loegr wedi cael eu cyhuddo o drywanu dyn 26 oed i farwolaeth yn Chicago.

Mae lle i gredu bod Trenton Cornell-Duranleau wedi cael ei drywanu o leiaf 40 o weithiau.

Mae Andrew Warren, 56, o goleg Somerville a’r Athro Wyndham Lathem, 42, wedi’u cyhuddo o’i lofruddio yng nghartref yr Athro Lathem yn Chicago.

Aeth y ddau at yr heddlu yng Nghaliffornia o’u gwirfodd ar ôl apêl.

Roedd Trenton Cornell-Duranleau a’r Athro Wyndham Lathem mewn perthynas â’i gilydd.

Mae archwiliad post-mortem wedi dangos bod gan Trenton Cornell-Duranleau fethamffetaminau yn ei gorff pan fu farw.

Y ddau sydd wedi’u hamau

Cafodd Andrew Warren, sy’n byw yn Swindon, ei ddiarddel o’i waith ym Mhrifysgol Rhydychen yn dilyn y digwyddiad ar Orffennaf 27.

Cafodd yr Athro Wyndham Lathem ei ddiswyddo gan Brifysgol Northwestern, ond mae’n bwriadu gwadu’r cyhuddiad yn ei erbyn.