Laura Stuart (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae teulu dynes o Ddinbych wedi talu teyrnged iddi wedi i Heddlu Gogledd Cymru gadarnhau mai Laura Jayne Stuart, 33 oed, fu farw ar ôl cael ei thrywanu yn y dref.

Bu farw’r ddynes o’i hanafiadau ar ôl cael ei thrywanu tua 4yb fore dydd Sadwrn, Awst 12, yn ardal Stryd Fawr, Dinbych.

Disgrifiodd ei theulu hi yn “ferch brydferth, chwaer, modryb a thu hwnt i’r cyfan yn fam i ddau o blant arbennig”.

“Roedd hi’n aelod ffyddlon o’r teulu ac yn cymryd balchder mawr wrth weithio yn swyddog cefnogi gydag oedolion bregus. Fe fydd yn cael ei cholli’n fawr gan bawb oedd yn ffodus i’w hadnabod.”

Yn y ddalfa

Mae dyn lleol, Jason Cooper 27 oed, wedi’i arestio a’i gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa.

Ychwanegodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod am glywed gan unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gan apelio arnyn nhw i gysylltu.