Mae heddlu’r gogledd wedi cadarnhau bod dynes gafodd ei thrywanu yn Ninbych dros y penwythnos wedi marw o’i hanafiadau.

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn digwyddiad difrifol o drywanu yn ardal Stryd Fawr Dinbych tua 4yb fore dydd Sadwrn.

Cafodd dau o bobol eu hanafu yn y digwyddiad ac mae dyn wedi’i gadw yn y ddalfa a’i gyhuddo mewn cysylltiad â’r digwyddiad.

Mae’r ymchwiliadau yn parhau ac fe fydd y dyn yn ymddangos ger Llys yr Ynadon Llandudno heddiw.

“Mae ein cydymdeimlad dwysaf yn mynd i deulu a ffrindiau’r ddynes fu farw, ac unwaith eto hoffem ddiolch y gymuned leol am eu cymorth gydag ymchwiliadau i’r digwyddiad hwn,” meddai Steve Williams, Ditectif Arolygydd.

Maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â’r heddlu ar 101.