Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth ar ôl i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn camlas ger Aberhonddu.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gamlas, rhwng The Watton a Dering Lines, yn fuan wedi 5.10 bnawn ddoe (dydd Sadwrn), ond nid yw’r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus.

Credir bod y dyn a fu farw yn ei 60au ac mae ei deulu agosaf a’r crwner wedi cael gwybod.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth a allai helpu esbonio amgylchiadau’r digwyddiad trist gysylltu â Heddlu Aberhonddu ar 101.