Mae gyrrwr fan wedi’i ladd mewn damwain ar draffordd yn ne-ddwyrain Lloegr, wedi i lwmp o goncrid fynd trwy ffenest flaen ei gerbyd.
Mae’r heddlu yn trin y farwolaeth ar yr M11 ger Birchanger yn Essex fel un amheus, ac maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r awgrym fod y lwmp concrid wedi’i daflu o bont.
Bu farw’r gyrrwr, oedd yn ei 60au, yn syth.
Mae Heddlu Essex wedi cau’r drafforth i gyfeiriad y gogledd, tra bod ymchwilwyr yn gwneud eu gwaith.
Mae’r heddlu’n apelio am dystion a allai fod yn gyrru rhwng cyffyrdd Harlow and Bishop’s Stortford rhwng 4yp a 6yh ddydd Mercher.