Mae Heddlu Gwent wedi dod o hyd i gorff dynes 64 oed ym mhentref Pontllanfraith, sir Caerffili.

Mae llefarydd ar ran y llu wedi cadarnhau iddyn nhw gael eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Llanarth yn ardal Springfield nos Fawrth.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff y fenyw yn farw.

Mae’r crwner wedi cael gwybod am y darganfyddiad, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.