Mae bachgen 15 oed wedi’i drywanu i farwolaeth yn Llundain – yr ail i gael ei ladd mewn trosedd yn ymwneud â chyllyll o fewn llai na 24 awr.

Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweill wedi’r digwyddiad yn Thornton Heath, de Llundain, nos Fawrth (Awst 8).

Yn ol Heddlu’r Met, fe gafodd plismyn eu galw tua 11yh. Roedd y bachgen wedi marw erbyn hanner nos.

Fe ddaw’r achos diweddaraf hwn wedi achos tebyg yn Peckham yn ne-ddwyrain y ddinas yn ystod oriau mân dydd Mawrth, pan gafodd yr heddlu eu galw i ffrwgwd yn ardal Old Kent Road tua 2yb.