Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddynes farw mewn tân mewn tŷ yn Sir Ddinbych.
Cafodd dau o bobol eraill driniaeth am effeithiau mwg yn dilyn y tân ym Mhen-y-Graig ger Dinbych ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 3.30pm.
Mae teulu’r dynes wedi cael gwybod.