Prawf anadl
Mae’r nifer o anafusion mewn damweiniau sy’n cael eu hachosi o ganlyniad i yfed a gyrru wedi cyrraedd pen-llanw mewn cyfnod o dair blynedd, yn ôl ffigyrau diweddar.

Mae’r ffigyrau terfynol gan yr Adran Trafnidiaeth yn dangos bod 1,370 o bobol wedi cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol yn 2015 o ganlyniad i ddamweiniau lle mae’r gyrrwr o dan ddylanwad alcohol – cynnydd o 1,310 (4%) ers y flwyddyn flaenorol ac sy’n cynrychioli’r cyfanswm mwyaf ers 2012.

Mae gwrthdrawiadau lle roedd y gyrrwr o dan fai o yfed a gyrru, wedyn, wedi gweld cynnydd o 2% yn flynyddol gan gyrraedd y cyfanswm o 5,370, er gwaetha’r ffaith bod y nifer o anafusion wedi gweld lleihad o 40 i 200.

Ffigyrau “gofidus”

Yn ôl Pete Williams, llefarydd y RAC ar ddiogelwch ffyrdd, mae’r ffigyrau hyn yn dangos cynnydd “gofidus” ac yn brawf pellach na ddylwn fod yn “fodlon” gyda’r lefelau yfed a gyrru yng ngwledydd Ynys Prydain.

“Mae’n anodd dweud,” meddai, “os yw hyn o ganlyniad i bobol sy’n yfed a gyrru am eu bod yn credu eu bod uwchlaw’r gyfraith, neu bod yfed a gyrru yn dod yn fwy derbyniol i grŵp ehangach.

Mae Jason Wakeford, cyfarwyddwr ymgyrchoedd yr elsuen Brake, yn mynnu bod pobol “hunanol” sy’n yfed a gyrru yn “dinistrio bywydau” ac yn achosi “dioddefaint i deuluoedd ledled y wlad”.

“Mae lefel yfed a gyrru yn Lloegr a Chymru gyda’r ail uchaf yn Ewrop ac mae’n rhaid iddi gael ei lleihau ar unwaith,” meddai.

“Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid dad-wneud y toriadau milian sydd wedi cael eu gwneud i weinyddu diogelwch ffyrdd ac mae angen taclo’n llymach y bobol beryglus hynny sy’n yfed a gyrru.”