Mae dyn wedi marw wrth ddringo’r Wyddfa, ar ôl disgyn dros 200 troedfedd.
Fe ddaeth Tîm Achub Mynydd Llanberis o hyd i’r corff ddydd Llun yr wythnos hon, a’i gludo oddi ar lethrau’r mynydd.
Roedd y dyn wedi bod yn cerdded Llwybr Pen y Gwryd i gyfeiriad Llwybr y Mwynwyr.
Oherwydd tywydd gwael a lleoliad y corff, doedd hofrennydd y tîm ddim yn gallu cynorthwyo yn yr ymdrechion.
Dyma’r ail farwolaeth ar fynyddoedd Eryri mewn llai nag wythnos – bu farw dyn ddydd Iau diwethaf ar ôl syrthio wrth ddringo mynydd Tryfan.