Brian Owens a'i ferch, Molly Llun: PA
Mae tad, a oedd wedi ffoi i Iwerddon gyda’i ferch 5 oed, wedi cael ei garcharu am 38 wythnos heddiw am ymosod ar ei gyn-bartner.

Roedd Brian Owens, 26, o Faes Cyttir, Caergybi wedi methu ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Gwener ddiwethaf lle’r oedd disgwyl iddo gael ei ddedfrydu am dri chyhuddiad o ymosod ac un cyhuddiad o anfon neges ffôn ymosodol.

Clywodd y llys bod Brian Owens wedi’i gael yn euog o’r troseddau yn ei absenoldeb pan fethodd ag ymddangos yn y llys wythnos ddiwethaf. Cafodd gwarant ei chyhoeddi i’w arestio.

Roedd Brian Owens wedi ffoi i Iwerddon gyda’i ferch, Molly, a bu Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth i ddod o hyd iddyn nhw.

Cafodd ei arestio nos Lun ar ôl iddo ildio i’r heddlu yng Nghaergybi ar ôl dychwelyd o Iwerddon.

Clywodd y llys ei fod wedi bod mewn perthynas gyda Jayne Debra Stowell, 39, mam Molly, ond fod y berthynas wedi suro yn gynharach eleni a’i fod wedi ymosod arni sawl gwaith ym mis Mai a Mehefin.

Mae gorchymyn llys yn ei atal rhag cysylltu â Jayne Stowell ac o fod o fewn 200 medr iddi.

Fe fydd hefyd yn gorfod gofyn am ganiatâd y llys, ei gyfreithiwr neu aelod o’r teulu cyn cysylltu gyda’i ferch.

Mae Brian Owens, sy’n ddi-waith, hefyd wedi cael gorchymyn i dalu £600 i’r dioddefwr.