Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i dorf o bobol ifanc seiclo trwy’r brifddinas ddydd Sadwrn “gan beryglu eraill ar y ffyrdd.”

Mae fideo o’r digwyddiad, a gafodd ei ffilmio o gar, yn dangos y grŵp o tua 100 yn gwneud triciau ar ei beiciau, yn swerfio ar draws lonydd ac yn gwneud ystumiau anweddus at yrwyr.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae grwpiau o bobol ifanc wedi dechrau cynnal bikestormz sef digwyddiadau lle mae pobol yn ymgynnull i seiclo fel torf.

Gwnaeth cannoedd o seiclwyr gymryd rhan mewn un o’r digwyddiadau yma’r llynedd yn Llundain gan achosi tipyn o gynnwrf.

“Anwybyddu diogelwch”

“Mae rhwydwaith ffyrdd Canol Caerdydd yn hynod o brysur – nid yw’n le chwarae,” meddai’r Archwiliwr Geraint White.

“Er bod rhai wedi seiclo mewn modd cyfrifol, gwnaeth nifer ohonyn nhw anwybyddu diogelwch eu hunain, a pheryglu eraill ar y ffyrdd.”

“Tra bod ni’n parhau i ymchwilio, hoffwn annog rhieni i atgoffa eu plant i seiclo’n ddiogel, yn enwedig ar heolydd prysur Caerdydd.”