Llys y Goron Caerdydd
Mae ditectif gwnstabl o dde Cymru wedi’i gael yn ddieuog o ymosod ar ddynes yn rhywiol, ac o dreisio ei merch hi.

Cafwyd y Ditectif Gwnstabl, Mark Glover, o Heddlu De Cymru yn ddieuog o dri chyhuddiad o drais a phedwar cyhuddiad o ymosodiadau rhywiol eu natur.

Yn Llys y Goron Caerdydd, dywedodd Mark Glover, 46, o Benarth, ei fod wedi cael rhyw gydsyniol â’r ddynes, a gwadodd y cyhuddiad bod unrhyw beth rhywiol wedi digwydd rhwng ef a’r ferch.

Dywedodd y ditectif priod ei fod wedi cael perthynas rhywiol â’r ddynes hŷn ychydig flynyddoedd yn ôl, ynghyd â dau brofiad rhywiol â hi yn fwy diweddar.

“Ffrwyth dychymyg byw”

Clywodd y llys bod merch y ddynes wedi cysylltu â’r heddlu wedi iddi ddod o hyd i negeseuon Facebook ei mam.

Dywedodd y ferch wrth swyddogion ei bod wedi cael ei threisio gan Mark Glover.

Yn ystod cyfweliad â’r heddlu dywedodd Mark Glover: “Ffrwyth ei dychymyg byw yw’r cyhuddiadau yma… Dw i’n credu ei bod hi wedi gwneud hyn oherwydd ei bod hi wedi darganfod fy mod i’n cael perthynas â’i mam, a dyma ei ffordd hi o ddial.”

Wedi bron dwy awr o drafod, cyflwynodd y rheithgor benderfyniadau unfrydol.