Yr Afterburner (Llun: Gwefan cwmni KMG sy'n cynhyrchu'r Afterburner)
Mae atyniad mewn parc antur ym Mhorthcawl wedi cau dros dro wrth i archwiliadau iechyd a diogelwch gael eu cynnal.

Mae’r atyniad yn Ffair Traeth Coney yn un o bump sydd wedi’u cau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch (HSE) yn dilyn digwyddiad ar reid debyg yn yr Unol Daleithiau lle cafodd dyn ifanc ei ladd.

Mae’r gweithgor wedi cadarnhau bod yr atyniadau ‘KMG Afterburner’ wedi’u cau dros dro, ond nad yw’r parciau wedi cau’n gyfan gwbl.

‘Archwilio’n drylwyr’

Cafodd dyn ifanc, 18 oed, ei ladd mewn ffair yn Ohio yr wythnos diwethaf (Gorffennaf 26) ac fe gafodd tri arall eu hanafu’n ddifrifol ar yr atyniad sy’n siglo ar gyflymder uchel wrth droelli ar yr un pryd.

Mae’r gweithgor wedi cadarnhau bod atyniadau yn y parciau antur Pleasure Wood Hills yn Suffolk, Ryan Crow Amusements yng ngogledd ddwyrain Lloegr, Brean yng Ngwlad yr Haf a pharc Joseph Manning yn Hertfordshire hefyd wedi cau dros dro.

“Mae chwe pheiriant o’r fersiwn hwn yn gweithredu yn y Deyrnas Unedig ac maen nhw wedi eu harchwilio’n drylwyr yn ystod y deuddeg mis diwethaf yn unol â’r gweithdrefnau a gytunwyd,” meddai llefarydd ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Dywedodd eu bod wrthi’n ailasesu’r peiriannau ac y byddant yn gweithredu “yn briodol” i sicrhau bod yr atyniadau’n cael eu “harolygu a’u profi yn ôl yr angen i sicrhau diogelwch.”