Bad achub
Mae mwy o bobl wedi marw oddi ar arfordir Cymru ym mis Awst nag yn ystod unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, yn ôl ystadegau newydd.
Yn ôl Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) mae 16 o bobol wedi marw oddi ar arfordir Cymru ym mis Awst, dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Llynedd bu’n rhaid i’r RNLI ymdrin â 278 argyfwng ym mis Awst. Dyma oedd y nifer uchaf ers pum mlynedd a bron chwarter o’u hargyfyngau am y flwyddyn.
Fel rhan o’u hymgyrch ddiogelwch flynyddol – ‘Parchwch y Dŵr’ – mae’r RNLI yn galw ar y cyhoedd i ffonio 999 os ydyn nhw’n gweld rhywun mewn trafferthion yn y dŵr.
“Trafferth ar yr arfordir”
“Â’r gwyliau haf wedi dechrau, mae ein traethau ffantastig yn denu nifer o bobol, ond yn anffodus mae hyn hefyd yn golygu bod mwy yn colli eu bywydau neu’n mynd i drafferthion ar yr arfordir,” meddai Helen Church, Partner Diogelwch Cymunedol Cymru ar ran yr RNLI.
“Rhaid dechrau trafodaeth genedlaethol sydd yn annog pobol i frwydro yn erbyn eu greddfau naturiol yn y dŵr. Os ydych yn gweld rhywun mewn perygl yn y dŵr, peidiwch â pheryglu eich hunain trwy geisio eu hachub. Ffoniwch am gymorth.
“Os ydych yn cwympo mewn i ddŵr oer peidiwch â nofio’n galed – gall hun arwain at foddi.”