Llun: PA
Mae cyn-aelod o’r Morlu Brenhinol wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd am gyflenwi bomiau i grŵp gweriniaethol yng Ngogledd Iwerddon.
Roedd Ciaran Maxwell wedi cuddio bomiau mewn wyth lleoliad yng Ngogledd Iwerddon a Lloegr.
Fe blediodd Ciaran Maxwell, 31, o Larne yn Swydd Antrim yn wreiddiol, yn euog o baratoi gweithredoedd brawychol rhwng mis Ionawr 2011 ac Awst y llynedd.
Clywodd yr Old Bailey bod y tad i un wedi ymchwilio i dargedau a thrafod cynlluniau i ymosod ar orsafoedd yr heddlu a swyddogion.
Mae’r heddlu’n bryderus y gallai arfau yr oedd wedi’u rhoi at ei gilydd fod mewn cylchrediad o hyd.
Cafodd ei garcharu am 18 mlynedd gyda phum mlynedd arall ar drwydded.