Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain wedi'r tân (Llun: Dominic Lipinski/PA Wire)
Mae 45 o bobol fu farw yn nhrychineb Tŵr Grenfell yn Llundain bellach wedi’u hadnabod.

Daw hyn wrth i gwestau tri dioddefwr arall agor yn Llys y Crwner San Steffan ddydd Llun.

Mae Dr Fiona Wilcox bellach wedi agor 41 o gwestau a’u gohirio tra bod ymchwiliad cyhoeddus ac archwiliad troseddol yn cael ei gynnal.

Mae disgwyl i gwestau eraill agor yn ystod yr wythnos hon.

Dogfennau deintyddol

Cafodd cwestau Eslah Elgwahry, 64 oed; Joseph Daniels, 69 oed a dynes 35 oed nad oedd ei theulu am iddi gael ei henwi, eu cynnal heddiw.

Clywodd y llys sut y cafodd Eslah Elgwahry ei hadnabod drwy ddogfennau deintyddol a Joseph Daniels drwy DNA.

Mae lle i gredu bod o leiaf 80 o bobol wedi marw yn y tân a ledodd drwy’r bloc o fflatiau 24 llawr ar Fehefin 14.