Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o dreisio merch 14 oed yn Birmingham – un o ddau ymosodiad arni ar yr un noson.

Bydd Khurram Rahi, 27, yn mynd gerbron ynadon yn y ddinas ddydd Llun wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad cyntaf ger gorsaf Witton.

Mae dyn 34 oed a gafodd ei arestio bellach wedi’i ryddhau wrth i’r ymchwiliad barhau.

Digwyddodd yr ymosodiad ger Villa Park, stadiwm tîm pêl-droed Aston Villa rhwng 8 o’r gloch nos Fawrth a 2 o’r gloch fore Mercher.

Cafodd hi ei threisio am yr ail waith ar ôl ceisio cymorth gan yrrwr car yn ddiweddarach yr un noson.

Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn o dras Asiaidd, 5’6″ mewn perthynas â’r ail ymosodiad.