he
Mae menyw mewn cyflwr difrifol iawn yn yr ysbyty yn nwyrain Lloegr, wedi iddi gael ei tharo gan fan yr heddlu oedd yn ymateb i alwad 999.

Roedd y wraig yn cerdded ar hyd ffordd y B1135 yn Hethel ger Norwich, pan gafodd ei tharo tua 10.20yh nos Iau.

Fe gafodd ei chludo gan ambiwlans awyr i Ysbyty Addenbrooke yng Nghaergrawnt. Chafodd neb arall ei anafu yn y digwyddiad.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Norfolk wedi cadarnhau fod swyddogion yr ardal yn ymateb i alwad frys pan ddigwyddodd y ddamwain, a’u bod nhw’n bryderus iawn ar y pryd am ddiogelwch menyw oedd wedi cael ei riportio ar goll.

Mae’r achos wedi’i gyflwyno i sylw Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC).