Mae dyn, 54, o Faesteg wedi marw ar ôl iddo fynd yn gaeth o dan gar wrth geisio ei drwsio.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i’r cyfeiriad ar Heol Cymmer am tua 9.15yh neithiwr.
Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.
Nid yw’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus, ac mae’r Crwner wedi cael ei hysbysu.