Mae’r heddlu’n ymchwilio ar ôl i ddyn geisio tynnu penwisg hijab oddi ar ddynes tra ei bod hi’n aros am drên tanddaearol yn Llundain.
Mae adroddiadau ei fod e wedi poeri i gyfeiriad ei ffrind ar ôl ei dal yn erbyn wal yng ngorsaf Baker Street.
Roedd y ddynes, Aniso Abdulkadir, wedi trydar am y digwyddiad, gan honni ei fod e wedi ei tharo hi wrth iddi geisio’i hamddiffyn ei hun.
Dywedodd fod dynes arall wedi sarhau’r ddwy yn eiriol ac wedi eu bygwth.
Mae’r neges wedi cael ei hail-drydar dros 24,000 o weithiau.
Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r digwyddiad, ac maen nhw wedi apelio am wybodaeth.