Tŵr Grenfell yn Kensington, Llundain wedi'r tân Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Fe fydd goroeswyr y tân yn Nhŵr Grenfell yn cynnal gwylnos heno, fis ar ôl y digwyddiad.

Fe fydd galarwyr yn ymgasglu ger cofeb ysgrifenedig sydd wedi ymddangos yn ardal y tân yng ngorllewin Llundain.

Mae disgwyl i gwestau rhagor o’r bobol fu farw gael eu hagor yn Llys Crwner Westminster heddiw.

Mae lle i gredu bod o leiaf 80 o bobol wedi marw yn y tân yn yr adeilad 24 llawr ar Fehefin 14.

Fe gollodd cannoedd o deuluoedd eu cartrefi, mae nifer o wleidyddion wedi ymddiswyddo ac mae tensiwn rhwng trigolion lleol a’r awdurdodau erbyn hyn.

Mae timau achub yn parhau i chwilio am gyrff, ac mae disgwyl i’r broses honno bara rhai misoedd eto.

Ymchwiliad cyhoeddus

 

Mae’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y tân wedi cael rhagor o amser i ystyried pa faterion hoffen nhw i ymchwiliad cyhoeddus eu hystyried.

Mae ymgyrchwyr eisoes wedi dweud eu bod nhw’n barod i droi eu cefn ar yr ymchwiliad oni bai ei fod yn cael ei ymestyn i ystyried problemau systemig yn ogystal â’r hyn oedd wedi achosi’r tân.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r materion yw Gorffennaf 28.

Mae ymdrechion ar y gweill drwy wledydd Prydain i sicrhau bod adeiladau oedd wedi defnyddio’r un cladin ag oedd ar yr adeilad yn ddiogel.

Mae 211 o adeiladau ar draws 55 o awdurdodau lleol wedi methu profion diogelwch erbyn hyn.